Menu
Home Page

Sosban Fach

Mae bys Meri-Ann wedi brifo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach.
Mae'r baban yn y crud yn crio,
A'r gath wedi sgramo Joni bach.

 

Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A'r gath wedi sgramo Joni bach.

 

Mae bys Meri-Ann wedi gwella,
A Dafydd y gwas yn ei fedd;
Mae'r baban yn y crud wedi tyfu,
A'r gath wedi huno mewn hedd.

 

Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd.


Dai bach y sowldiwr, Dai bach y sowldiwr, Dai bach y sowldiwr, A gwt ei grys e mas.

 

Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd.

Sosban Fach, Cerys Matthews Live at WOMAD 2010

Top